Hafod Holistics
Ioga ~ Iechyd ~ Lles
Helo
Elen dw'i, a fi yw'r wyneb tu ôl i Hafod Holistics. Fel Therapydd Cyflenwol cymwysedig, hyfforddwr Ioga a myfyrdod a gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio o fewn y maes Iechyd Meddwl ar draws Gwynedd a Môn, gallaf gynnig pecynnau hunanofal amrywiol sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion i helpu eich iechyd a lles cyffredinol.
Fy Nghefndir
Yn 2012, cefais radd Anrhydedd mewn Seicoleg Iechyd Clinigol o Brifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Dibyniaeth ac Adferiad. Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Iechyd Meddwl ar draws Gwynedd a Môn, gyda dros ddegawd o’r rhain fel Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau. Gallaf gynnig ystod o raglenni amrywiol a phecynnau hunanofal y gellir eu teilwra’n benodol ar gyfer anghenion pob unigolyn yn dilyn Ymgynghoriad Cyfannol llawn.
Rwyf wedi bod yn Therapydd Cyflenwol cymwys ers dros 10 mlynedd ac rwy’n cynnig ystod o driniaethau amgen amrywiol sy’n hybu iechyd a lles cyffredinol a gall gefnogi unrhyw un sy’n ymdopi â’r canlynol:
-
Straen
-
Pryder
-
Iselder
-
Patrwm Cwsg
-
Poen Cronig
-
Menopôs
-
Canser
-
PTSD
-
Trawma
Yn 2020 enillais gymhwyster Addysgu Ioga a Myfyrdod ac ers hynny rwyf wedi cylawni dros 400awr o hyfforddiant gyda’r Yoga Alliance a chynnal dosbarthiadau wythnosol a gweithdai iachau yn yr ardal. Ioga yw undeb y meddwl, y corff a'r enaid, a thrwy ymgorffori rhai o'r technegau hynafol hyn yn ein bywydau bob dydd, gallwch leddfu llawer o anhwylderau a chyflyrau meddyliol a chorfforol.
Rwy'n cynnig sesiynau Therapi Ioga Cyfannol 1:1 a fydd yn ymgorffori'r canlynol:
-
Pranayama – Arferion anadlu i ddod â ni allan o'r ymateb 'ymladd neu ffoi', cefnogi rheoleiddio emosiynol a thechnegau ar gyfer gostwng lefelau straen.
-
Glanhau'r Chakras myfyrdod i gael gwared ar unrhyw egni llonydd a rhwystrau emosiynol.
-
Ioga Llif Ysgafn – Llif ymlaciol ysgafn i gysylltu yn ôl i'r corff trwy ganolbwyntio ar aliniad, cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd.
-
Ioga Nidra – Myfyrdod dan arweiniad ar gyfer cyflwr tawelu dwfn.
Fel Cymraes, gallaf gynnal pob ymgynghoriad a thriniaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad, cysylltwch.
Rwyf wedi fy lleoli yn Y Leaf Health Clinic ym Mhorthaethwy bob dydd Iau.
Rwyf hefyd yn cynnig sesiynau symudol felly gallaf ymweld â chi yn eich cartref. Gallaf hefyd wneud apwyntiadau ar gyfer grwpiau.
07808506067