top of page
Hafod Holistics
Ioga ~ Iechyd ~ Lles
Ioga
Gwych i'r corff a'r meddwl
Mae ioga yn ymarfer sydd yn helpu'r meddwl a'r corff i gael heddwch a chydbwysedd tra'n datblygu hyblygrwydd a chryfder. Os ydych yn ddechreuwr pur neu'n chwilio am becyn ioga tymor hir, gall Hafod Holistics eich helpu.
​
Mae Elen yn hyfforddwr ioga cymwysiedig, gyda 400 awr o hyfforddiant gyda'r Yoga Alliance.
​
Undeb y meddwl, corff a'r enaid yw ioga, a thrwy ddefnyddio'r technegau hynafol hyn i'n bywydau bob dydd, gallant leddfu nifer o anhwylderau corfforol a meddyliol.
Dosbarthiadau
Dosbarth llif hamddenol i gryfhau’r corff a thawelu’r meddwl. Dysgu sut i gysylltu yn ôl a’r corff drwy ganolbwyntio ar yr anadl, aliniad, cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd. I ddilyn, Myfyrdod dan arweiniad ar gyfer cyflwr tawelu dwfn.
bottom of page