top of page
Llun o gerrig wrth ochr y dwr

Pecynnau Lles

Yn dilyn ymgynghoriad Holistic llawn sy’n edrych ar ffordd o fyw’r unigolyn, diet, cyflyrau meddygol, patrwm cysgu ac ati. Bydd pecyn lles yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

Ymgynghoriad Cyfannol Llawn | Gwaith Anadl | Technegau Ymlacio | Dewisiadau Ffordd o Fyw Iachach | Maeth | Therapi Ioga | Triniaethau Cyfannol | Cyngor Ôl-ofal

Pecynnau Gofal

Pecynnau a Gweithdai Hunan Ofal

Mae'r pecynnau hunan ofal yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad llawn Holistic

  • Dyddlyfr 

  • Ymarfer Diolchgarwch 

  • Myfyrdod 

  • Aromatherapi 

  • Clanhau’r Chakras 

  • Cadarnhadau Positif 

  • Mantras

  • Technegau ymlacio 

  • Therapi Ioga 1:1 

  • Triniaeth Holistic 

  • Adnabod Straen 

  • Blwch Offer 

  • Ôl-ofal 

Dail

Hunan Ofal Menopôs

Pecynnau Hunan Ofal i Ferched sydd yn mynd drwy’r Menopôs.

​

Mae pob pecyn unigryw wedi ei delwra benodol i wedda anghenion yr unigolyn. Maen’t yn cynnwys Ymgynghoriad Cyfannol Llawn a Chyngor Ôl-ofal yn ogystal a chyfuniad o’r canlynol:

​

  • Ioga

  • Myfyrdod

  • Tylino

  • Adweitheg

  • Aromatherapï

  • Glanhau’r Chakras

  • Reiki

  • Dyddlyfr

  • Mantras

  • Diolchgarwch

​

​

Gweithdy Iachau

Mae’r gweithdy’n hyrwyddo Iechyd a Lles cyffredinol i gefnogi unrhyw un sydd yn ymdopi â; Straen, Iselder, Patrwm Cysgu, Poen Cronig, Menopôs, Cancr, Trawma, ASWT.

 

Mae’r gweithdy’n cynnwys:

​

  • Cylch Iachau o fwriadau, bendithion a diolchgarwch.

  • Pranayama – Arferion anadlu i ddod â ni allan o’r ymateb ‘ymladd neu ffoi’, dysgu sut i gefnogi a rheoleiddio emosiynnau a thechnegau ar gyfer gostwng lefelau straen.

  • Glanhau’r Chakras - myfyrdod i gael gwared ar unrhyw egni trymaidd a rhwystrau emosiynol

  • Ioga Llif ysgafn -  Llif ymlaciol i gysylltu yn ôl a'r corff trwy ganolbwyntio ar aliniad, cryfder, cydbwysedd a hyblygrwydd.

  • Yoga Nidra - Myfyrdod dan arweiniad ar gyfer cyflwr tawelu dwfn.

  • Paned a Sgwrs – Adlewyrchu a rhannu

​

​

Pecynnau Lles Gofal Canser 

Gall Therapiau Holistig helpu gyda amrywiaeth o anhwylderau, cyflyrau a symptomau a achosir gan ganser a’i driniaeth. Fe'i defnyddir gan gleifion i wella ansawdd bywyd ac i gyfuno’r meddwl, y corff a’r ysbryd.


Maen’t hefyd yn helpu i;

 

  • Leihau gorbryder ac iselder

  • Sefydlogi patrwn cysgu

  • Lleihau lefelau straen

  • Lleddfu tensiwn a phryder

  • Ysgogi'r system lymffatig

  • Cynyddu’r cylchrediad

  • Cynyddu lefelau egniol

  • Rheoli poen


Mae tylino cyffyrddiad ysgafn medrus yn fuddiol ym mron pob cam o'r profiad o ganser. Yn ystod cyfnod o arhosiad yn yr ysbyty, yn ystod neu ar ôl cemotherapi a radiotherapi. Y cyfnod cyn neu ar ôl llawdriniaeth. Adferiad gartref, ymataliad neu wellhad a hefyd ar ddiwedd oes.

Yn dilyn ymgynghoriad Holistig, bydd y pecyn yn cael ei delwra yn arbennig i bob unigolyn ac yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol;

 

  • Aromatherapi

  • Adweitheg

  • Tylino

  • Ioga

  • Myfyrdod

  • Reiki

​

​

Therapi Ioga

un i un

Yn dilyn ymgynghoriad llawn sydd yn edrych yn fanwl ar y person drwy ddynesiad Holistic yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ysbrydol i gael darlun clir o iechyd a lles cyffredinol yr unigolyn. Yn dilyn casglu’r wybodaeth byddaf yn gweithio gyda’r unigolyn i greu pecyn unigryw sydd yn gweddu eu sefyllfa bresennol. Mae modd addasu’r rhaglen yn ddibynol ar y nifer o sesiynau. Pwrpas y sesiynau ydyw i rymuso’r unigolyn i ofalu am eu hunain drwy ddysgu arferion o wahanol ystumiau ac ymarferion anadlu sydd yn uno’r corff y meddwl a’r ysbryd gyda’i gilydd i’w gallu ymgorffori newidiadau syml yn eu ffordd o fyw drwy eu hymarfer yn ddyddiol. Dan arweiniad bydd y sesiynau yn hybu’r unigolyn i godi ymwybyddiaeth o’u iechyd drwy ddysgu sut i adnabod straen a sut i reoli poen.

Lili Ddwr
yoga packages

(Rhaglen 7 wythnos)

Cyfres Ioga Chakra

Ffocws ioga yw bywiogi a chydbwyso pob un o'r saith system chakra. Mae ymarfer Asana a Myfyrdod Rheolaidd yn rheoleiddio'r pwysedd gwaed, yn ysgogi'r system nerfol, yn eich helpu i gysgu’n well, ac yn gwella'r gallu i ganolbwyntio, teimlo llai o straen, a hybu'r system imiwnedd sy'n helpu i sicrhau’r iechyd a'r lles gorau posibl.

 

Mae pantryman ioga yn cael eu haddasu gydag ar gyfer poen pen-glin a phoen cronig yng ngwaelod y cefn.

(Rhaglen 7 wythnos)

Rhaglen Ioga / 12 Cam AA 

Ioga = Undeb y Meddwl/Corff/Enaid

AA = Undod/Gwasanaeth/Adferiad

 

Gellir gweld AA ac Ioga fel canllawiau ar gyfer Taith Ysbrydol gyda'r nod yn y pen draw yn cyflawni hapusrwydd, llawenydd neu wynfyd. Fel yr wyth aelod o'r corff, mae'r 12 cam yn cynnig llwybr sy'n annog datblygiad ysbrydol.

(Rhaglen 8 wythnos)

Amser Tawel - Bod yn llonydd ac yn ymlacio

​

Mae hon yn rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar a ddatblygwyd ar gyfer y glasoed i'w helpu i reoli straen a rheoleiddio eu hemosiynau. Mae pob sesiwn yn ymgorffori technegau anadlu ar gyfer ymlacio ac osgo yoga i'w helpu i ailgysylltu â'u cyrff.

Rhaglen Adfer Holistic  (8-wythnos)

Mae’r rhaglen Adfer Holistic yn gwrs byr a gynigir i unigolion sy’n weddol sefydlog yn eu hadferiad o gamddefnyddio sylweddau, alcohol neu salwch meddwl sy’n gallu ymrwymo i sesiynau 2 awr am 8 wythnos. Bydd y cwrs yn dysgu'r unigolion i gymryd perchnogaeth o'u caethiwed a chymryd rheolaeth yn ôl o'u hiechyd a dysgu sut i wneud dewisiadau ffordd o fyw gwell drostynt eu hunain trwy ddefnyddio sgiliau newydd yn eu bywyd ddyddiol. Bydd nodau cyraeddadwy realistig yn cael eu gosod a fydd, gobeithio, yn eu helpu i aros yn ymatal a chaniatáu iddynt gael eu rhyddhau'n llwyr o wasanaethau.

Mae pob sesiwn yn cynnwys:​

​

  • Ymgynghoriad Cyfannol Llawn

  • Gweithdy Gwybyddol/Caethiwed

  • Triniaeth Holistaidd

  • Cyngor Ôl-ofal

Ffrwythau a dail
bottom of page